SGETI

Gweld lluniau'r Cylch
Bore Blêr: chwarae gyda dwr
Bore Blêr: chwarae gyda dwr

Mae Cylch Ti a Fi Sgeti yn gylch croesawgar yng ngorllewin Abertawe sy'n rhoi cyfle i blant a'u rhieni/gwarchodwyr i fwynhau chwarae a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymraeg anffurfiol, hyd at oed ysgol.

Nod y Cylch Meithrin yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol, trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n gyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae, heb eu rhieni, dan arweiniad staff proffesiynol, cymwys a brwdfrydig. Cysylltwch â ni os hoffech i enw plentyn fynd ar restr aros y Cylch Meithrin.

Fel arfer bydd bore yn y Cylch Meithrin a'r Cylch Ti a Fi yn cynnwys:

  • chwarae rhydd gyda theganau, clai, llyfrau a phosau
  • amser crefft neu baentio
  • diod a byrbryd
  • amser stori a chanu

Mae croeso mawr i siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg ac i'r di-Gymraeg

Cylch Ti a Fi: bore Llun (yn ystod tymor ysgol), 9:30yb - 11:30yb

Cylch Meithrin: bore Mawrth a bore Gwener (yn ystod tymor ysgol), 9:15yb - 11:15yb

Eglwys y Bedyddwyr Sgeti, Heol Carnglas, Sgeti SA2 9BJ.

Cliciwch yma i weld map a chael cyfarwyddiadau sut i gyrraedd.

Angharad Brown, Arweinydd chwarae

Rhif ffôn symudol: 07501149246

cylch.sgeti@gmail.com

Newyddion!

Mae Cylch Meithrin Sgeti a Chylch Chwarae y Mwmbwls yn edrych am berson â chymwysterau addas erbyn Pasg 2010, ar gyfer arwain y Cylchoedd yn ystod cyfnod mamolaeth. Manylion pellach ar adran Swyddi Gwag gwefan MYM.

Ni fydd Cylch Ti a Fi ar y 25ain o Ionawr 2010.

 

Dyluniwyd gan Elfen  |  Datblygwyd gan Fusion  |  XHTML 1.0  |  CSS