Cam Wrth Gam





Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Print this page   Email this page

Meithrinfeydd Dydd

Un o is-gwmnïau’r Mudiad yw Meithrinfeydd Cymru sy'n cynnal meithrinfeydd dydd trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae'r meithrinfeydd hyn yn darparu gofal dydd llawn ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r gwasanaeth ar gael i blant o chwe wythnos oed hyd oed ysgol.

Gall plant fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a phrofiadau chwarae mewn amgylchfyd hapus, diogel ac ysgogol. Bydd hyn yn eu galluogi i ddatblygu i’w llawn potensial.

Mae meithrinfeydd y Mudiad yn darparu gofal plant safonol, hyblyg a fforddiadwy i rieni. Mae'r gwasanaeth yma yn cael ei ddarparu gan staff profiadol, cymwys ac ymroddgar. Trwy gofrestru eich plentyn yn un o feithrinfeydd y Mudiad gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd camau bychain cyntaf eich plentyn yn rhai sicr a hyderus.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.



Dyluniwyd gan Elfen  |  Datblygwyd gan Fusion Workshop  |  XHTML 1.0  |  CSS