Cam Wrth Gam





Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Print this page   Email this page

Cylchoedd Meithrin

Mudiad Ysgolion Meithrin yw’r prif ddarparwr o ofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector gwirfoddol. I gyflawni hyn, mae'r mudiad yn sefydlu a chefnogi cylchoedd meithrin.

Nod y cylch meithrin yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol.  Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad staff proffesiynol, cymwys a brwdfrydig.

* Mae dros 500 o gylchoedd meithrin yng Nghymru.
* Mae dros 18,000 o blant yn cael cyfle i ddysgu trwy
   chwarae yn y cylchoedd.
* Cymraeg yw iaith y cylch meithrin.
* Mae’r un croeso yn y cylch i blant di-Gymraeg ag
   sydd i blant Cymraeg eu hiaith.  
* Mae'r pwyslais ar ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg pob
   plentyn. 

“Rydym fel teulu wrth ein boddau pan ddaw ein mab adref yn llawn storïau doniol ac yn canu caneuon newydd a ddysgodd yn y cylch.  Mae’r addysg gychwynnol a gaiff yno yn ardderchog ac yn ddechrau da i’w addysg gynradd.”  
Dyfyniad gan riant o gylch meithrin yng ngogledd Cymru

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.



Dyluniwyd gan Elfen  |  Datblygwyd gan Fusion Workshop  |  XHTML 1.0  |  CSS