Y Bwrdd Cyfarwyddwyr yw corff llywodraethol Mudiad Meithrin a’i aelodau yw Ymddiriedolwyr yr elusen. Y Bwrdd yw cyngor llywodraethol yr elusen sydd yn gyfrifol am faterion polisi. Aelodau’r Bwrdd yw Swyddogion Mygedol y Mudiad, aelodau etholedig o bob talaith ac aelodau cyfetholedig.

Mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn cynnwys aelodau gwirfoddol sy’n cynrychioli gwahanol daleithiau ac arbenigeddau gwaith y Mudiad. Mae aelodau Tîm Strategol Mudiad Meithrin hefyd yn mynychu’r cyfarfodydd Bwrdd er mwyn adrodd ar gyflawniad a chynnig cyngor yn ôl yr angen. Mae rheolwyr Mudiad Meithrin hefyd yn cael eu galw yn ôl yr angen.

Mae ymddiriedolwr yn derbyn pecyn anwytho wrth gael eu hapwyntio er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o bolisïau a threfniadau’r elusen.  Mae apwyntiadau’n digwydd trwy broses agored a thryloyw gyda recriwtio agored a phenodiad trwy gyfweliad gan aelodau o’r Bwrdd Cyfarwyddwyr. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn bob yn ail â’r Is-Bwyllgor Cyllid atodol.

Mae’r Prif Weithredwr yn cael ei apwyntio gan y Swyddogion Cenedlaethol, a fe/hi sydd yn gofalu am weithrediad dydd i ddydd y Mudiad. Mae staff y Mudiad yn atebol, trwy’r Prif Weithredwr, i Fwrdd Cyfarwyddwyr y Mudiad.

Nid yw aelodau’r Bwrdd yn cael derbyn tâl na budd mewn unrhyw ffordd, ar wahân lle caniateir hynny dan Erthyglau a Memorandwm y Cwmni e.e. costau teithio a chostau gofal.

Cadeirydd y Bwrdd yw Dr Catrin Edwards a gweler yr aelodau presennol isod.
Gellir cysylltu gyda’r Bwrdd trwy e-bostio post@meithrin.cymru neu trwy yrru llythyr i Mudiad Meithrin, Y Ganolfan Integredig, Boulevard de Saint Brieuc, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1PD.