Yn y Mudiad rydym yn gwybod fod darparu profiadau llawn hwyl i blant a’u trochi yn y Gymraeg yn hanfodol wrth iddynt ddysgu’r iaith a thyfu’n ddwyieithog.

Defnyddir y dull trochi iaith Croesi’r Bont i gyflwyno’r Gymraeg i blant ifanc sy’n mynychu ein Cylchoedd Meithrin. Cynhelir yr holl weithgareddau chwarae drwy’r Gymraeg er mwyn annog plant i gyfathrebu gydag oedolion a’u ffrindiau drwy gyfrwng yr iaith. Yn yr awyrgylch hwn, gall plant ddatblygu eu sgiliau ieithyddol drwy gwricwlwm cyflawn sy’n cynnwys cyfleoedd chwarae strwythuredig a rhydd, ynghyd â chynllun trochi iaith.

Yn dilyn arolygiadau nifer o Gylchoedd Meithrin, mae’r Cynllun wedi ei gymeradwyo gan ESTYN.

Gallwch ddarllen mwy am y cynllun trochi iaith isod.

Pe hoffech ragor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â ni drwy post@meithrin.cymru

Taflen wybodaeth Croesi’r Bont

Lawrlwytho