Cwestiwn 3:
Beth yw'r manteision o fod yn ddwyieithog?
Mae sawl mantais, er enghraifft:
- Mae ymchwil yn dangos fod plant sy'n deall dwy iaith yn meddwl yn fwy hyblyg a chreadigol
- Mae manteision economaidd amlwg yn hwyrach mewn bywyd pan fydd eich plentyn yn edrych am swydd, gan fod mwy o swyddi yng Nghymru heddiw yn gofyn am sgiliau dwyieithog nag erioed o'r blaen.
- Gall helpu i bontio rhwng cenedlaethau os oes mamgu neu dadcu, nain neu daid neu aelodau o'r teulu yn siarad Cymraeg.
- Mae person dwyieithog yn gallu cyfathrebu ag amrywiaeth ehangach o bobl na pherson sydd ond yn gallu siarad un iaith.
- Mae'n cynnig cyfle i brofi dau ddiwylliant.
- Mewn ardaloedd Cymreig, mae'n rhoi'r cyfle i berson ymgymryd ym mhob agwedd o fywyd cymunedol.

« 'nôl · 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 · nesaf »