bilingulfrombirth.com
toy image

Cwestiwn 2: Pam darllen y wybodaeth hon?

Os ydych yn rhiant neu'n warcheidwad i blentyn sydd eisoes wedi bod mewn cylch meithrin, neu feithrinfa cyfrwng Cymraeg, ac yn ystyried addysg gynradd eich plentyn, darllenwch ymlaen. Mae'n dangos i chi beth yw'r manteision o roi cyfle i'ch plentyn siarad dwy iaith ac o ddewis addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.

Mae dewis anfon eich plentyn i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn ddewis pwysig.

Mae nifer o fanteision o fod yn gallu siarad dwy iaith. Bydd eich plant yn gallu mwynhau dau ddiwylliant. Byddant hefyd yn gallu pontio rhwng cenedlaethau drwy siarad yr un iaith a mamgu a thadcu, nain a thaid, y teulu estynedig neu yn y gymuned leol.

Ond mae yna hefyd fanteision economaidd. Yng Nghymru heddiw, mae cyflogwyr yn edrych am bobl sy'n medru siarad a gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae dewis anfon eich plentyn i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn golygu y byddwch yn rhoi'r manteision hyn i'ch plentyn - a dwywaith y dewis - drwy ei fagu i siarad dwy iaith.

Mae gan gylchoedd meithrin ac ysgolion yng Nghymru flynyddoedd o brofiad ac arbenigedd o addysgu plant yn ddwyieithog, ac mewn sawl ffordd, o ran deall anghenion dwyieithog plant, rydyn ni ar y blaen i'r rhan fwyaf o wledydd y byd. Felly gadewch i ni rannu'r profiad hwn gyda'n gilydd, ac adeiladu arno!

Gall penderfynu ar addysg cynradd eich plentyn fod yn broses gymhleth, ond cofiwch, mae symud o gylch meithrin neu feithrinfa cyfrwng Cymraeg i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn ddatblygiad naturiol i'ch plentyn. Bydd hyn yn wir yn enwedig os oes nifer o blant o'r un grwp yn symud gyda'i gilydd. Mae dilyniant yn bwysig iawn i blentyn.

Ar y llaw arall, nid oes rhaid i chi boeni os nad yw eich plentyn wedi mynychu cylch meithrin, gan fod digon o amser ar ôl i fanteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae plentyn bach yn dysgu iaith yn gyflym. Mae penderfynu ar y cam nesaf i addysg eich plentyn yn hynod o bwysig i chi a'ch partner. Mae'n bwysig eich bod chi'n trafod hwn ac yn ystyried barn eich partner yn ofalus. Os ydych chi'n dymuno i'ch plentyn siarad Cymraeg a Saesneg, mae'n bwysig bod y ddau ohonoch yn deall fod gan addysg ddwyieithog rôl allweddol yn y broses hon.


*

« 'nôl · 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 · nesaf »

* Hafan
* Cyflwyniad
* Cysylltiadau Defnyddiol